Ym myd prysur adeiladu, nid mater dewisol yw safonau diogelwch ond blaenoriaeth. Mae cadw ar y blaen o ran y safonau diogelwch adeiladu diweddaraf yn hollbwysig er mwyn sicrhau amgylchedd gwaith diogel.

Mae safonau diogelwch heddiw wedi symud y tu hwnt i ddull rhestr wirio syml, gan ganolbwyntio yn lle hynny ar sefydlu man gwaith sy’n gyson ddiogel a chadarnhaol.

Mae’r symudiad rhagweithiol hwn yn amlygu cam sylweddol tuag at wella diogelwch gweithwyr, a thrwy hynny leihau damweiniau cysylltiedig â gwaith ac annog gweithlu iachach a hapusach.

Datgelodd adroddiad diweddar gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) fod dwy filiwn o weithwyr ym Mhrydain Fawr wedi dioddef o salwch cysylltiedig â gwaith yn 2022-23, sy’n effeithio ar gynhyrchiant y genedl. Amcangyfrifir bod 35.2 miliwn o ddiwrnodau gwaith wedi’u colli yn 2022-23 oherwydd salwch neu anaf cysylltiedig â gwaith hunangofnodedig, ac o’r rheini, ychydig yn llai na 3% (yr Access Industry Forum, 2023) a ddigwyddodd ym maes sgaffaldio.

Mae adroddiad yr HSE hefyd yn ymchwilio i effaith economaidd salwch cysylltiedig â gwaith ac anafiadau yn y gweithle, a dywedodd Prif Weithredwr yr HSE, Sarah Albon, “Gall atal neu fynd i’r afael â straen cysylltiedig â gwaith fod o fudd sylweddol i weithwyr, gan wella eu profiad o waith a’u hiechyd cyffredinol; a hefyd i gyflogwyr gan gynnwys cynhyrchiant uwch, llai o absenoldebau, a llai o drosiant staff”.

Mae unrhyw safonau newydd a sefydlir ym maes sgaffaldio a’r maes adeiladu ehangach yn pwysleisio pwysigrwydd hyfforddiant cynhwysfawr i weithwyr ac asesiadau cymhwysedd trwyadl, gan sicrhau bod pob aelod o’r gweithlu yn meddu ar yr adnoddau y mae arnynt eu hangen i fynd i’r afael â’u tasgau mewn modd diogel ac effeithiol. Mae hyn nid yn unig yn meithrin man gwaith mwy diogel ond hefyd yn cyfrannu at wella perfformiad gweithwyr a chanlyniadau cyffredinol prosiectau.

Mae arloesedd ym maes technoleg wedi bod yn gatalydd pwerus ar gyfer gwella mesurau diogelwch yn y sector adeiladu. Mae datblygiadau technolegol megis dronau, technoleg wisgadwy ac efelychiadau realiti rhithwir wedi hyrddio diogelwch yn y diwydiant adeiladu i ddimensiwn dyfodolaidd. Mae dronau, er enghraifft, yn darparu dull mwy diogel o archwilio safleoedd, gan olygu bod gweithwyr yn dod i gysylltiad ag amodau peryglus yn llai aml. Yn y cyfamser, gall technoleg wisgadwy gadw golwg ar arwyddion bywyd gweithwyr, gan eu rhybuddio nhw a’u goruchwylwyr am risgiau iechyd posibl, a hynny mewn amser real. Wedyn, mae yna efelychiadau realiti rhithwir, sy’n offeryn eithriadol o werthfawr ar gyfer hyfforddi.

Gall yr efelychiadau hyn ail-greu senarios hynod o beryglus heb i’r gweithwyr orfod wynebu perygl go iawn, gan roi’r sgiliau a’r wybodaeth iddynt allu ymdrin â pheryglon bywyd go iawn. Mae’r datblygiadau technolegol rhyfeddol hyn yn gwneud mwy na dim ond cynyddu diogelwch – maent yn hwyluso cydymffurfedd y diwydiant adeiladu â’r safonau diogelwch diweddaraf.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant sydd ar gael ar gyfer gweithio ar uchder, cysylltwch â Academi Scaffaldiau CWIC.

Gellir dod o hyd i adroddiad yr HSE yma: https://www.hse.gov.uk/statistics/overview.htm

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Post comment